Mae nifer o wleidyddion Ffrainc wedi beirniadu’r protestwyr sy’n achosi helynt yn y brifddinas Paris.

Bu’n rhaid i’r heddlu droi at ganonau dŵr er mwyn tawelu’r rhai sy’n gwrthwynebu arweinyddiaeth yr Arlywydd Emmanuel Macron a threthi a chostau byw yn codi.

Maen nhw wedi rhoi graffiti ar yr Arc de Triomphe, wedi llosgi o leiaf un car ac wedi dinistrio ffens ar gyrion gerddi Tuileries.

Bu’n rhaid i’r heddlu gau nifer o ffyrdd yn y brifddinas neithiwr (nos Sadwrn, Rhagfyr 2), ac mae o leiaf 224 o bobol wedi’u harestio ac o leiaf 80 o bobol wedi’u hanafu, gan gynnwys 16 o blismyn.

Wrth i’r heddlu ddefnyddio nwy ddagrau a dŵr, ymatebodd y protestwyr drwy daflu cerrig mawr atyn nhw.

Beirniadu

Ymhlith y rhai sydd wedi beirniadu’r protestwyr mae Anne Hidalgo, Maer Paris, sydd wedi mynegi ei “thristwch mawr”, gan ychwanegu nad yw’n “dderbyniol”.

Mae Marine Le Pen, arweinydd y Front National, wedi annog y protestwyr i fynd adref.

Dywedodd Laurent Nunez, un o weinidogion y llywodraeth,  fod 3,000 o “bobol sy’n achosi trafferth” o amgylch y Champs-Elysees, y tu allan i ffiniau a gafodd eu gosod gan yr heddlu.

Mae lle i gredu bod 5,000 o blismyn yn ceisio cadw trefn yn y brifddinas, a dywedodd Edouard Phillipe, y prif weinidog, fod rhai ohonyn nhw wedi dioddef ymosodiadau.

Dywedodd ei fod e mewn “sioc” o ganlyniad i’r trais, ac nad oes “esgus gan y rhai sy’n dod i achosi trafferth”.