Mae gwraig ffotograffydd o Tsieina sydd wedi ennill gwobrau am ei waith, yn dweud iddo gael ei gipio gan asiantau diogelwch dros dair wythnos yn ôl, wrth iddo deithio ym mhellafoedd gorllewin y wlad.

Mae Xu Xiaoli yn dweud bod ei gwr, Lu Guang, yn teithio yn Xinjiang pan gollodd pob cysylltiad ag ef ar Dachwedd 3.

Mae’n dweud bod ffrind wedi ei helpu i wneud ymholiadau yn ei dalaith enedigol, Zhejiang. Yno, mae’r awdurdodau wedi cadarnhau bod Lu Guang a ffotograffydd arall wedi’u dwyn i’r ddalfa gan swyddogion diogelwch y dalaith.

Does dim mwy o wybodaeth ar gael, meddai, ond mae’n mynnu na fyddai ei gwr wedi gwneud unrhyw beth anghyfreithlon.

Yn 2004, fe enillodd Lu Guang wobr am ei gyfres o luniau o bentrefwyr tlawd yn Tsieina sy’n diodde’ o HIV.