Mae dros 145 o forfilod wedi marw ar ôl mynd yn sownd ar draeth anghysbell yn Seland Newydd.

Cafodd ddau grŵp o forfilod eu darganfod gan gerddwr ychydig dros filltir ar wahân dydd Sadwrn (Tachwedd 24) ar Ynys Stewart.

Roedd 75 ohonynt wedi marw yn barod a phenderfynodd gweithwyr cadwraeth i ddifa’r gweddill oherwydd eu cyflwr gwael.

Dim ond tua 375 o bobol sy’n byw ar Ynys Stewart, a elwir hefyd yn Rakiura.

Roedd y morfilod i’w darganfod ym Mae Mason, tua 22 milltir o’r brif dref, Oban.