Mae Canghellor yr Almaen, Angela Merkel wedi croesawu cytundeb Brexit Theresa May, gan ddweud ei fod yn “ddarn o gelf diplomyddol”.

Dywedodd fod heddiw (dydd Sul, Tachwedd 25) yn “ddiwrnod hanesyddol sy’n esgor ar deimladau amwys”, a’i bod yn “drasig” fod Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Ond dywedodd hefyd fod rhaid “parchu” barn pobol yng ngwledydd Prydain, sydd wedi gosod “cynsail” fel y wlad gyntaf i adael yr Undeb Ewropeaidd.