Mae mwy na 100 o bobol wedi derbyn triniaeth yn yr ysbyty yn Syria ar ôl cael eu gwenwyno â nwy, yn ôl adroddiadau.

Mae lle i gredu mai gwrthryfelwyr oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad honedig yn Aleppo, ond maen nhw’n gwadu hynny.

Mae 15 o’r 105 o bobol a gafodd eu cludo i’r ysbyty yn dal yno, a’r gweddill wedi cael mynd adref.

Mae dau o bobol oedd mewn cyflwr difrifol yn dechrau gwella.

Mae’r gwrthryfelwyr wedi cyhuddo llywodraeth y wlad o geisio tanseilio cadoediad.