Mae Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron wedi beirniadu protestiadau treisgar tros brisiau tanwydd a’i arweinyddiaeth.
Bu’n rhaid i heddlu Paris ddefnyddio nwy ddagrau a chanonau dŵr i dawelu’r dorf wrth i ddegau o filoedd o bobol ymgynnull yn y brifddinas a chreu blocâd.
Hwn oedd wythfed diwrnod y protestiadau cenedlaethol oedd wedi dechrau yn sgil anfodlonrwydd â threthi tanwydd, ond sydd wedi datblygu’n brotest gyffredinol yn erbyn Emmanuel Macron a’i lywodraeth.
Bu farw dau o bobol mewn protestiadau ers Tachwedd 17.
Protest ddydd Sadwrn
Yn y brotest ddiweddaraf ddoe (dydd Sadwrn, Tachwedd 24), cafodd o leiaf 19 o bobol eu hanafu, gan gynnwys pedwar o blismyn.
Cafodd un person anafiadau mwy difrifol.
“Cywilydd ar y rhai oedd wedi ymosod (ar yr heddlu),” meddai Emmanuel Macron ar ei dudalen Twitter. “Cywilydd ar y rhai oedd yn dreisgar tuag at ddinasyddion eraill… Dim lle i’r trais hwn yn y Weriniaeth.”
Cafodd dwsinau o brotestwyr eu harestio ar ôl bod yn taflu gwrthrychau yn ystod y brotest. Cafodd cerbydau eu llosgi ar rai strydoedd.
Mae lle i gredu bod 130 o bobol wedi cael eu harestio drwy’r wlad gyfan, a hynny o blith mwy na 106,000 o brotestwyr.