Mae iechyd cyn-Arlywydd 94 oed Zimbabwe, Robert Mugabe yn dirywio, yn ôl ei olynydd, Emmerson Mnangagwa.
Mae e yn yr ysbyty yn Singapôr ers deufis, meddai’r Arlywydd wrth rali.
“Dydy e ddim yn gallu cerdded erbyn hyn, ond byddwn yn parhau i ofalu amdano,” meddai am y cyn-arweinydd a gafodd ei orfodi i gamu o’r neilltu flwyddyn yn ôl.
Roedd disgwyl iddo ddychwelyd i Zimbabwe ar Hydref 15, ond doedd e ddim yn ddigon iach i deithio.
Ond mae disgwyl bellach y bydd yn mynd adref ar Dachwedd 30.