Mae o leiaf 25 o bobol wedi cael eu lladd ar ôl i fws lanio mewn camlas yn ne India.

Mae lle i gredu bod y gyrrwr wedi colli rheolaeth ar y cerbyd, oedd yn cael ei yrru ar gyflymdra uchel yn ardal Mandya yn nhalaith Karnataka.

Plant yw nifer sylweddol o’r rhai fu farw, meddai asiantaeth newyddion yn y dalaith, a’r gred yw eu bod nhw’n teithio adref o’r ysgol cyn y digwyddiad.

Mae oddeutu 150,000 o bobol yn marw mewn gwrthdrawiadau yn India bob blwyddyn, yn bennaf oherwydd cyflwr gwael y ffyrdd a cherbydau sy’n orlawn.