Mae’r awdurdodau yn Ffrainc yn paratoi ar gyfer protestiadau cenedlaethol yn erbyn trethi tanwydd ac arweinyddiaeth yr Arlywydd Emmanuel Macron.
Mae disgwyl i yrwyr lorïau greu blocâd ar draws y wlad, wythnos yn unig ar ôl i fwy na 250,000 o bobol gymryd rhan mewn gwrthdystiadau cenedlaethol tebyg.
Mae disgwyl i brotest gael ei chynnal ger Tŵr Eiffel.
Llywodraeth Ffrainc yn taro’n ôl
Mae un o weinidogion Llywodraeth Ffrainc, Christophe Castaner wedi galw am heddwch, gan addo gweithredu’n gadarn yn erbyn tyrfaoedd yn ystod y brotest.
Mae disgwyl i fwy na 3,000 o swyddogion diogelwch geisio cadw trefn ar y digwyddiadau.
Yn ystod yr wythnos, cafodd dau o bobol eu lladd mewn protestiadau, a chafodd cannoedd yn rhagor eu hanafu.
Ddydd Gwener, cafodd dyn ei arestio ar ôl chwifio ffrwydron mewn archfarchnad yn ninas Angers yng ngorllewin y wlad.
Mae’r protestwyr yn anfodlon ynghylch difaterwch honedig Emmanuel Macron wrth i bobol gyffredin ei chael yn anodd cael deupen llinyn ynghyd.
Mae Emmanuel Macron wedi amddiffyn y trethi, gan addo amlinellu cynlluniau newydd ddydd Mawrth.