Mae gweinidog yn llywodraeth Israel wedi rhybuddio bod dyddiau arweinydd y mudiad Hamas a’i reolaeth o Gasa “wedi eu rhifo”.

Mae Yoav Gallant yn dweud bod amser Yehiyeh Sinwar yn prinhau, a’i fod yn debygol iawn o dreulio diwedd ei oes mewn cartref henoed.

Mae Israel a Hamas newydd gamu’n ôl o’u pedwerydd rhyfel mewn degawd, wedi i’r Aifft ymyrryd a chynnal trafodaethau a arweiniodd at gadoediad.

Roedd gwrthryfelwyr Palesteinaidd wedi tanio mwy na 460 o rocedi dros y ffin i Israel, tra bod byddin Israel wedi cynnal cyrchoedd awyr ar 160 o dargedau yn Gasa.

Fe gafodd 14  o Balesteiniaid eu lladd, tra bod labrwr Palesteinaidd a oedd yn gweithio yn Israel wedi’i ladd gan roced o Gasa.