Mae twrist o’r Unol Daleithiau wedi cael ei ladd gan fwa saeth llwyth brodorol ar ynys ger India.

Mae saith pysgotwr wedi cael eu harestio am hwyluso ymweliad y dyn ag ynys Gogledd Sentinel. Mae ymweliadau’n cael eu rheoli’n llym gan y llywodraeth.

Mae’r llwyth yn byw ar yr ynys goediog ac yn ceisio atal pob cyswllt â’r byd tu allan i’r ynys, gan ymosod ar unrhyw un sy’n bygwth eu preifatrwydd.

Mae’r ynys yn gorwedd rhwng ynysoedd Andaman a Nicobar oddi ar Fae Bengal a’r Môr Andaman.

Does dim rhagor o wybodaeth am farwolaeth y dyn, ac eithrio iddo gael ei ddarganfod yn farw gan y pysgotwyr ddydd Sadwrn.

Dydy conswlaeth yr Unol Daleithiau yn nhalaith Tamil Nadu ddim wedi gwneud sylw am yr achos hyd yn hyn.