Mae o leiaf 40 o bobol wedi marw ym mhrifddinas Afghanistan, ar ôl i hunanfomiwr ymosod ar gyfarfod Mwslimaidd.

Yn ôl llefarydd ar ran y Weinidogaeth Iechyd Cyhoeddus, fe gafodd 60 o bobol eraill eu hanafu yn ystod y digwyddiad hefyd, wrth i Fwslemiaid ymgasglu er mwyn dynodi pen-blwydd y proffwyd Mohammed.

Mae’n debyg bod cannoedd o ysgolheigion a chlerigwyr wedi dod i’r digwyddiad mewn neuadd briodas enfawr yn Kabul.

Does neb wedi cymryd cyfrifoldeb am yr ymosodiad hyd yn hyn, ond mae’r Taliban a’r Wladwriaeth Islamaidd wedi ymgymryd ag ymosodiadau o’r fath yn y gorffennol.