Mae Prif Weinidog Sbaen, Pedro Sanchez, wedi dweud y bydd y wlad yn pleidleisio yn erbyn cytundeb Brexit, os nad yw sefyllfa Gibraltar yn cael ei ystyried.

Ar hyn o bryd, mae Prydain a’r Undeb wedi cyrraedd cytundeb drafft 585 tudalen a does dim hanner digon o fanylder ar ddyfodol eu perthynas, yn ôl Sbaen.

Mae’r wlad yn honni nad yw ‘r geirfa yn glir o ran sut fyddai Gibraltar – tiriogaeth Brydeinig ar ben deheuol Penrhyn Iberia – yn cael ei delio â hi.

Os nad yw’r dogfennau yn cael eu golygu cyn dydd Sul, “mi fydd Sbaen yn pleidleisio na”, rhybuddiodd Pedro Sanchez ar Ddydd Mawrth (Tachwedd 20).