Mae dyn wedi cael ei saethu ar ôl trywanu heddwas ger y Grand Place yn ninas Brwsel.

Mae’r heddwas wedi cael ei gludo i’r ysbyty, a dyw ei anafiadau ddim yn rhai  difrifol.

Ond mae’r ymosodwr wedi ei anafu’n wael ar ôl cael ei saethu.

Mae’r rheswm tu ôl i’r ymosodiad yn aneglur, ac mae ymchwiliad yr heddlu yn ystyried cysylltiadau posib gyda grwpiau eithafol.

Mae Gwlad Belg wedi bod o dan ddiogelwch uwch ers ymosodiadau ym Mawrth 2016 ble cafodd 32 o bobol eu lladd.