Mae person wedi marw, a chwech arall wedi eu hanafu ar ol i dirlithriad achosi damwain ar drên oedd ei ffordd i Barcelona.

Fe lithrodd dau gerbyd allan o’r chwech oddi ar y trac am 6yb heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 20) ger Vacarisses, tua 45km i’r gogledd ddwyrain o’r ddinas.

Mae llefarydd ar reilffyrdd Sbaen, Antonio Carmona, wedi wrth y cyfryngau lleol bod posibilrwydd mai’r glaw trwm dros y dyddiau diwethaf oedd wedi achosi’r tirlithriad.

Roedd tua 150 o bobol yn teithio ar y trên ar y pryd. Mae dynion tân a’r gwasanaethau argyfwng yn dal i weithio er mwyn ceisio rhyddhau’r teithwyr sy’n sownd.