Mae pedwar o bobol wedi cael eu lladd ar ôl i ddyn estyn gwn ar ôl ffrae gyda’i bartner mewn ysbyty yn yr Unol Daleithiau.

Cafodd y dyn, sydd heb ei enwi, ffrae y tu allan i ysbyty Mercy, Chicago, gyda’i bartner a oedd yn feddyg yn yr adran argyfwng.

Ar ôl ei saethu, fe redodd y dyn i mewn i adeilad yr ysbyty cyn lladd person yn y fferyllfa ynghyd ä heddwas.

Bu farw’r ymosodwr hefyd, ond dyw hi ddim ar hyn o bryd yn glir sut y cafodd ei ladd.