Mae cwmni ceir Nissan wedi diswyddo ei gadeirydd, Carlos Ghosn, wedi i ymchwiliad mewnol ganfod ei fod wedi dweud celwydd ynglyn â’i gyflog.

Mae’r cwmni o Japan hefyd wedi cadarnhau y bydd ymchwilad pellach yn cael ei gynnal, wedi i weithiwr chwythu’r bib am y ffigurau ffug yr oedd y cadeirydd wedi’u cyflwyno “dros nifer o flynyddoedd”.

Mae’r ymchwilad wedi codi cwr y llen ar gamweithredu arall hefyd, meddai’r cwmni, a bod hynny’n cynnwys y modd yr oedd yn defnyddio asedau’r cwmni er ei fudd ei hun.

Mae Nissan yn dweud dweud eu bod nhw wedi cyflwyno’r holl wybodaeth berthnasol i erlynwyr, a bod y cwmni yn cydweithredu gyda’r awdurdodau.