Mae cannoedd o drigolion Tijuana yn Mecsico wedi ymgasglu o gwmpas cofgolofn yn un o ardaloedd moethus y ddinas, er mwyn cynnal protest yn erbyn y ffoaduriaid sydd wedi cyrraedd yno o Hondwras, ar eu ffordd i’r Unol Daleithiau.

Mae mwy na 3,000 o bobol wedi llifo i Tijuana dros y dyddiau diwethaf, ar ôl treulio mis ar y lôn, yn y gobaith y byddan nhw’n cael lloches yn America.

Mae llywodraeth Mecsico yn amcangyfrif y gallai nifer y ffoaduriaid gyrraedd 10,000 yn y misoedd nesaf, ac mae arolygwyr y ffin yn trin tua 100 o geisiadau bob dydd.

Ond mae trigolion Tijuana wedi bod yn chwifio baneri Mecsico, yn canu’r anthem genedlaethol ac yn siantio “Allan! Allan!” Maen nhw’n cyhuddo’r ffoaduriaid o fod yn flêr, yn anniolchgar ac yn beryg i’r ddinas.

Maen nhw hefyd yn cwyno am “ymosodiad” y garafan o bobol ar ddinas.