Mae’r awdurdodau yn Gwatemala yn gofyn i drigolion deg o gymunedau adael eu cartrefi, cyn i losgfynydd Volcan de Fuego ffrwydro.

Mae’r llosgfynydd yn un o’r copaon ymysg Escuintla, Chimaltenango a Sacatepequez yn ne’r wlad.

Nawr, mae hi i fyny i’r cymunedau o tua 2,000 o drigolion, i benderfynu a ydyn nhw’n fodlon symud ai peidio.

Mae’r mynydd 12,300 troedfedd yn un o’r rhai mwya’ bywiog yn America Ganol. Ym mis Mehefin eleni, fe laddwyd 194 o bobol, ac fe ddiflannodd 234 o bobol, pan ffrwydrodd.

Ers mis Hydref, mae lludw a lafa wedi bod yn cael ei ryddhau’n ara’ bach o’r mynydd.