Mae o leiaf 409 o bobol wedi eu hanafu wrth i’r protestio yn erbyn cynnydd ym mhris petrol barhau yn Ffrainc.

Mae pobol wedi bod yn gwrthdystio  mewn dros 2,000 o lefydd yn y wlad, ac fe ddaeth dros 300,000 ynghyd ddydd Sadwrn i alw am ostyngiad yn y dreth ar betrol a diesel.

Cafodd un protestiwr ei daro gan gar a’i ladd yn nwyrain Savoie.

Fe barhaodd y protestio trwy’r penwythnos i ddydd Sul gan greu tagfeydd traffig -/ond mae’r prif weinidog Edouard Phillippe yn gwrthod ildio.

Mae’r protestio wedi bod yn ddwys iawn yn Reenes, Avignon a Nancy, ble’r oedd galw ar i’r heddlu ymyrryd.

Mae 157 o bobol wedi cael eu dal a’u holi.