Fe fydd adroddiad llawn ynghylch marwolaeth y newyddiadurwr o Saudi Arabia, Jamal Khashoggi yn cael ei gyhoeddi dros y dyddiau nesaf – a hwnnw’n cadarnhau pwy oedd wedi ei ladd, meddai Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump.

Cafodd y colofnydd gyda’r Washington Post ei ladd yn llysgenhadaeth Saudi Arabia yn Istanbul ar Hydref 2.

Daeth asiantaethau cudd-wybodaeth i’r casgliad cychwynnol ei fod e wedi cael ei ladd ar orchymyn Tywysog Coronog Saudi Arabia, Mohammed bin Salman.

Ond mae Saudi Arabia’n gwadu’r honiadau.

Camau posib?

Yn ôl yr Arlywydd Donald Trump, fe fydd rhaid iddo feddwl yn ofalus ynghylch unrhyw gosbau posib yn sgil marwolaeth Jamal Khashoggi.

Ond mae e wedi wfftio galwadau ar iddo roi’r gorau i werthu arfau i’r wlad, rhag ofn y byddai hynny’n gwylltio’r arweinwyr.

“Rhaid i fi ystyried llawer o bethau,” meddai.

Daw ei sylwadau ar ôl iddo honni bod marwolaeth y newyddiadurwr ymhlith yr “achosion gwaethaf o gelu yn hanes celu”.

Hyd yn hyn, mae 17 o swyddogion y wlad wedi cael eu cosbi am eu rhan yn y digwyddiad.