Mae nifer y bobol a fu farw o ganlyniad i danau mawr Califfornia wedi codi i 76, ac mae hyd at 1,300 o bobol yn dal ar goll.

Cafwyd hyd i bump yn rhagor o gyrff ddydd Sadwrn (Tachwedd 17) – pedwar ohonyn nhw yn nhref Paradise a’r llall yn nhref Concow gerllaw.

Ar ôl beirniadu’r awdurdodau coedwigoedd am y tanau, mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump wedi ymweld â’r dalaith i weld y dinistr.

Wrth ymweld â’r dalaith, cafodd Donald Trump gwmni llywodraethwr presennol a darpar-lywodraethwr y dalaith. Fe aeth i dde’r dalaith hefyd, lle mae diffoddwyr yn parhau i geisio rheoli fflamau i ardal i’r gorllewin o Los Angeles, lle mae tri o bobol wedi marw.

Cefnogaeth

Mae Donald Trump eisoes wedi addo y bydd y llywodraeth ffederal yn cynnig cefnogaeth i rai cymunedau.

“Dydyn ni erioed wedi gweld unrhyw beth fel hyn yng Nghaliffornia o’r blaen. Mae fel dinistr llwyr,” meddai yn nhref Paradise.

Mae disgwyl i wyntoedd cryfion wneud gwaith y diffoddwyr yn fwy anodd o lawer yn ystod y dydd heddiw, ac mae glaw ar ei ffordd ganol yr wythnos, gan gymhlethu’r broses o geisio dod o hyd i gyrff.

Mae bron i 10,000 o gartrefi wedi’u dinistrio, a thros 233 o filltiroedd sgwâr o dir wedi’i ddifetha. Mae 55% o’r tanau dan reolaeth erbyn hyn.