Mae dros 1,000 o bobl bellach ar restr o bobl a all fod ar goll yn sgil tân marwol yng ngogledd California.

Mae nifer y marwolaethau wedi codi i o leiaf 71 ar ôl i wyth yn rhagor o gyrff gael eu darganfod neithiwr.

Er bod y rhestr o bobl ar goll wedi codi o 631 nos Iau i 1,011 erbyn neithiwr, gobaith yr awdurdodau yw y bydd y nifer yn lleihau. Mae’n bosibl y bydd rhai ohonyn nhw wedi llwyddo i ddianc heb sylweddoli eu bod ar restr o’r fath. Mae lle i gredu hefyd y gall rhai enwau fod wedi eu dyblygu arno, yn rhannol oherwydd anghysondebau mewn sillafu.

Dyma’r tân mwyaf marwol yn America ers can mlynedd. Mae tref Paradise, gyda phoblogaeth o 27,000 wedi cael ei llosgi i’r llawr i bob pwrpas, gyda threfi a phentrefi cyfagos hefyd wedi cael eu difrodi’n ddrwg.

Mae bron hanner y tân – a oedd yn ymestyn dros 222 milltir sgwâr – o dan reolaeth bellach, gyda diffoddwyr tân yn ennill tir.