Mae mwy na 40 o bobol wedi marw o ganlyniad i ddamwain bws yn Zimbabwe.

Yn ôl awdurdodau’r wlad, mae o leiaf 20 o bobol wedi’u hanafu hefyd, a rhai wedi’u llosgi’n ddrwg, yn dilyn y digwyddiad nos Iau (Tachwedd 15).

Does dim gwybodaeth eto ynglŷn â beth oedd achos y ddamwain, ond mae lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos gweddillion y bws sydd wedi llosgi’n ulw.

Bu’r digwyddiad yn ardal Gwanda, sydd tua 340 o filltiroedd i’r de o brifddinas y wlad, Harare.