Mae 631 o bobol yn parhau ar goll o ganlyniad i’r gyfres o danau gwyllt yn Califfornia.

Mae’r ffigwr diweddaraf wedi cynyddu 130 mewn diwrnod, yn dilyn cynhadledd i’r wasg gan un o brif swyddogion yr awdurdodau yn ardal Butte.

Dywedodd y Siryf Kory Honea fod y nifer wedi cynyddu oherwydd bod yr awdurdodau wedi gwirio galwadau argyfwng ac adroddiadau o’r wythnos ddiwethaf, gan weld bod mwy o bobol ar goll.

Ond fe all y ffigwr hwn gynnwys pobol sydd wedi ffoi o’r tanau ac sydd ddim yn sylwi eu bod nhw wedi’u hadrodd ar goll, meddai wedyn.

Mae’r awdurdodau hefyd wedi cadarnhau bod cyfanswm o 63 o bobol wedi marw yn yr hyn sy’n cael ei ystyried y gyfres o danau gwyllt gwaethaf yn hanes y dalaith.

Er bod y tanau yn parhau i losgi, mae’r gwasanaethau brys yn ne a gogledd Califfornia yn adrodd eu bod nhw’n dechrau ennill tir yn erbyn y fflamau.

Mae cannoedd o weithwyr achub, ynghyd ag aelodau o’r fyddin, yn chwilio am bobol sydd ar goll mewn ardaloedd sydd wedi cael eu difrodi gan dân.

Yn y cyfamser, mae disgwyl i’r Arlywydd Donald Trump ymweld â’r dalaith dros y penwythnos er mwyn cyfarfod â phobol sydd wedi dioddef o ganlyniad i’r argyfwng.