Mae arlywydd Ffrainc yn dweud bod yn rhaid i’w wlad ef a’r Unol Daleithiau barch ei gilydd, yn dilyn cyfres o negeseuon beirniadol gan Donald Trump ar wefan gymdeithasol Twitter.

Mewn cyfweliad ar sianel deledu TF1, mae Emmanuel Macron wedi dweud yn glir nad yw pobol Ffrainc yn disgwyl i’w harlywydd “ymateb i negeseuon ar Twitter” – a hynny wedi i Donald Trump ymosod arno am awgrymu creu byddin Ewropeaidd, a’r posibilrwydd o godi tariffau ar win o America.

“Mae Mr Trump yn gwneud pethau yn ei ffordd ei hun o fewn gwleidyddiaeth America,” meddai Emmanuel Macron, “a dw i’n gadael llonydd iddo wneud yr hyn mae’n rhaid iddo ei wneud.

“I fod yn onest, dw i ddim yn trin gwleidyddiaeth nac yn siarad efo gwledydd eraill y byd trwy negeseuon Twitter.”