Mae ymladd rhwng gwleidyddion yn y Senedd yn Sri Lanca heddiw (dydd Iau, Tachwedd 15), drannoeth y bleidlais o ddiffyg hyder na lwyddodd y Prif Weinidog, Mahinda Rajapaksa, ei goroesi.

Dywedodd Llefarydd y Senedd, Karu Jayasuriya, fod y wlad bellach yn ddilywodraeth, gan nad oes bellach awdurdod gan y Prif Weinidog, a gafodd ei benodi i’r swydd fis diwethaf.

Roedd mwy na dwsin o wleidyddion yn rhan o’r ymladd ar lawr y siambr, ac mae adroddiadau’n dangos rhai’n cicio eu cyd-aelodau ar y llawr.

Mae rhai o gefnogwyr Mahinda Rajapaksa yn cael eu gweld wedyn yn taflu poteli o ddŵr a biniau sbwriel at eu gwrthwynebwyr, cyn i’r Llefarydd ohirio’r cyfarfod.

Mae’r Prif Weinidog wedi gwrthod canlyniad y bleidlais o ddiffyg hyder, a gafodd ei chynnal trwy bleidlais lafar, ac mae’n galw am etholiad newydd.