Mae o leiaf 42 o bobol wedi marw yn y tân gwyllt yn nhalaith Califfornia hyd yn hyn.

Bump diwrnod ers i’r fflamau gydio yn Paradise, tref â phoblogaeth o 27,000 o bobol – mae ansicrwydd o hyd ynglŷn â’r nifer sydd ar goll.
Mae disgwyl hefyd i nifer y meirwon godi.
Mae’r tan wedi llosgi dros 195 milltir sgwâr ac wedi dinistrio dros 6,400 o dai ers iddo gydio ddydd Iau diwethaf (Tachwedd 8).
Mae’r awdurdodau yn ymchwilio i achos y tân.