Mae cannoedd ar filoedd o bobol yn yr Wcráin heb wres yn eu tai oherwydd ffrae rhwng y cwmni nwy cenedlaethol a darparwyr rhanbarthol.

Fe feddiannodd fwy na 600,000 o drigolion yn ardal Kryvy Rih, de-ddwyrain y wlad, un o swyddfeydd cwmni nwy lleol, gan fynnu eu bod nhw’n cael eu gwres yn ôl. Fe blymiodd y dymheredd i lefelau o dan y rhewbwynt dros nos.

Yn nhref Smila yng nghanol yr Wcráin wedyn, mae trigolion wedi rhwystro ffyrdd sy’n arwain i’r dref, yn y gobaith y bydd yr awdurdodau’n darparu ynni iddyn nhw.

Dywedodd un o aelodau seneddol yr wrthblaid, Oleh Lyashko, yr wythnos ddiwethaf ei fod yn gwybod am o leiaf chwe thref sydd â chyfanswm o filiwn o bobol yn byw ynddyn nhw, sydd heb wres yn eu tai.

Daw’r argyfwng ar ôl i’r cwmni nwy cenedlaethol, Naftagaz, gynyddu prisiau i lefelau y mae rhai darparwyr bychain yn dweud sy’n amhosib i’w talu.