Mae achos wedi dechrau yn erbyn dynes o Ffrainc sydd wedi cael ei chyhuddo o gamdriniaeth ar ôl i’w phlentyn gael ei ddarganfod yn byw yng nghist ei char.

Fe ymddangosodd Rosa Maria Da Cruz gerbron y llys yn ninas Tulle, gan wynebu cyhuddiadau o drais yn erbyn plentyn ac o achosi anabledd parhaol.

Mae’r ddynes yn wynebu hyd at ugain mlynedd yn y carchar.

Yn ôl yr awdurdodau, roedd y plentyn tua dwy oed ac mewn cyflwr difrifol gyda phroblemau datblygiad difrifol pan ddaeth peiriannydd o hyd iddi.

Mae’n debyg bod y fam wedi cadw ei beichiogrwydd a bodolaeth y babi yn gyfrinachol oddi wrth ei gŵr a’u tri o blant, drwy gadw ei merch mewn seler ac yng nghist y car.

Mae’r plentyn, sydd bellach bron yn saith oed, mewn gofal arbennig.