Mae’r gantores Katy Perry wedi beirniadu ymateb Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump i’r tanau gwyllt yng Nghaliffornia.

Yn ôl Donald Trump, fe ddigwyddodd y tanau yn sgil rheolaeth wael o goedwigoedd y dalaith – sylwadau y mae’r gantores yn eu galw’n “hollol ddidostur”.

Mae’r Arlywydd wedi bygwth peidio ag ariannu’r gwasanaeth coedwigoedd o ganlyniad i’r tanau.

Mae naw o bobol wedi marw hyd yn hyn, a nifer fawr o enwogion wedi’u gorfodi i adael eu cartrefi sydd mewn perygl o fynd yn wenfflam.

“Does dim rheswm am y tanau enfawr, marwol a chostus hyn yng Nghaliffornia, ac eithrio fod rheolaeth o goedwigoedd mor wael,” meddai Donald Trump ar Twitter.

“Mae biliynau o ddoleri’n cael eu rhoi bob blwyddyn, gyda chynifer o fywydau wedi’u colli, a’r cyfan oherwydd cam-reolaeth ddifrifol o’r coedwigoedd. Gwelliant nawr, neu ddim rhagor o daliadau gan Fed!”

‘Ymateb hollol ddidostur’

“Mae hwn yn ymateb hollol ddidostur,” meddai Katy Perry wrth ymateb i’r sylwadau. “Does dim gwleidyddiaeth ynghlwm hyd yn oed. Dim ond teuluoedd Americanaidd da yn colli eu cartrefi wrth i chi drydar, gan ffoi i lochesi.”

Ac mae hi wedi canmol y diffoddwyr tân sy’n ceisio rheoli’r fflamau.

“Mae yna dipyn o ansicrwydd heno,” meddai, “ond yr hyn ry’n ni yn ei wybod yw ein bod ni yma i chi ac fel cymuned, byddwn ni’n helpu mewn unrhyw ffordd bosib.

“Cymaint o ddiolchgarwch i’r holl ymatebwyr cychwynnol dewr sydd allan yna ac yn peryglu eu bywydau er lles cynifer o deuluoedd.”