Mae o leiaf naw o bobol wedi marw yn y tanau gwyllt gwaethaf yn nhalaith Califfornia ers dros ganrif.

Ddiwrnod yn unig ar ôl i’r tân ddechrau, mae wedi lledu i ardal o 140 milltir sgwâr, gan ddinistrio mwy na 6,700 o adeiladau – bron bob un ohonyn nhw’n gartrefi.

Fe fu’n rhaid i ddiffoddwyr roi’r gorau i geisio diffodd y tân er mwyn helpu hyd at 250,000 o bobol i adael eu cartrefi’n ddiogel.

Mae gorchmynion yn eu lle mewn rhai ardaloedd i bobol adael eu cartrefi. Ymhlith y trefi lle mae’r gorchymyn mewn grym mae Malibu, sy’n gartref i rai o sêr Hollywood.

Cymorth brys

Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump wedi cyhoeddi cymorth ariannol brys i siroedd Butte, Ventura a Los Angeles.

Wrth i bobol frysio i adael eu cartrefi yn Paradise, maen nhw wedi gadael eu cerbydau yn y fan a’r lle, gan achosi cryn oedi ar y ffyrdd.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd beth oedd wedi achosi’r tân cychwynnol, ond roedd rhai ardaloedd heb drydan yn fuan cyn hynny.