Mae un wedi’i ladd a dau arall wedi eu hanafu, ar ôl i ddyn ymosod arnyn nhw â chyllell yn Melbourne, Awstralia.

Bu’r digwyddiad yn y prynhawn yn ystod awr brysuraf y ddinas, gyda channoedd o bobol yn gwylio o bellter wrth i’r heddlu geisio dal yr ymosodwr.

Dywed yr heddlu fod y dyn wedi dod allan o gerbyd, a aeth ar dân yn fuan wedyn, cyn ymosod ar dri cherddwr.

Fe geisiodd ymosod ar swyddogion yr heddlu hefyd, cyn cael ei saethu yn yr ysgyfaint gan heddwas. Bu farw yn yr ysbyty yn ddiweddarach.

IS yn hawlio cyfrifoldeb

Bu farw un o’r dynion a gafodd ei drywanu yn fuan wedi’r ymosodiad, gyda’r ddau arall yn cael eu cludo i’r ysbyty.

Mae’r Wladwriaeth Islamaidd wedi cymryd cyfrifoldeb am yr ymosodiad.

Maen nhw’n dweud bod y dyn yn un o “ymladdwyr y Wladwriaeth Islamaidd”, a’i fod wedi ymateb i’w galwad i ymosod ar wledydd sy’n rhan o’r gynghrair ryngwladol sy’n brwydro yn Syria ac Irac.

Mae Prif Weinidog Awstralia, Scott Morrison, wedi disgrifio’r weithred yn un “ysgeler a chachgïaidd”.

Ac fe ychwanegodd: “Fydd Awstraliaid byth yn cael eu bygwth gan yr ymosodiadau erchyll hyn, ac fe fyddwn ni’n parhau i fyw ein bywydau a mwynhau’r rhyddid y mae’r ymosodwyr hyn yn ei gasáu.”