Mae miloedd o bobol wedi cael eu gorfodi i adael eu cartrefi, ysgolion ac ysbytai yn Califfornia, wrth i danau gwyllt ledu dros dde’r dalaith.

Fe ddechreuodd y tanau yn ardal Hill Canyon ddydd Iau (Tachwedd 9) gan ledaenu’n gyflym tros 7,000 erw o dir.

Yn ôl adroddiadau, mae 1,200 o gartrefi wedi cael eu gwagio, ac mae’r seren deledu Kim Kardashian West ymhlith y bobol sydd wedi gorfod ffoi.

Mae fideos ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos ceir yn sownd mewn tagfeydd, gyda thanau cyfagos yn creu mwg trwchus.

Nid de Califfornia yn unig sydd wedi cael ei effeithio.

Yn ôl awdurdodau, mae pentref Paradise wedi cael ei “ddinistrio’n llwyr” ar ôl i wyntoedd cryfion chwythu’r tanau at dai a busnesau.