Y Pab Bened XVI
Mae’r Pab Bened XVI wedi galw am gyd-weithio rhwng Cristnogion o eglwysi gwahanol er mwyn amddiffyn gwerthoedd traddodiadol.

Dywedodd y Pab fod yr Eglwys Gatholig ac eglwysi eraill yn credu fod erthyliad a phriodasau hoyw yn fygythiad.

Wrth siarad yn yr Almaen dywedodd na ddylai crefydd gael ei daflu allan o fywyd cyhoeddus a bod eglwysi Cristnogol yn “cerdded ysgwydd yn ysgwydd” yn y frwydr.

“Mae angen iddyn nhw siarad ar y cyd er mwyn amddiffyn bywyd dynol o’r beichiogiad i farwolaeth naturiol,” meddai wrth gyfarfod o Gristnogion Uniongred yn ei wlad enedigol.

“Rydyn ni Gristnogion yn deall gwerth priodas ac eisiau amddiffyn unplygrwydd ac unigrywiaeth priodas rhwng un dyn ac un ddynes.

“Mae Cristnogion yn credu’r un peth ac fe fydd hynny o fudd wrth adeiladu cymdeithas sy’n gallu wynebu heriau’r dyfodol.”

Dywedodd y Fatican nad oedden nhw’n pryderu ar ôl i ddyn saethu gwn awyr at un o amddiffynwyr y Pab yn ninas ddwyreiniol Erfurt tuag awr cyn yr Offeren.