Mae mwg gwenwynig wedi lledu dros un o ddinasoedd mwyaf India, gan orfodi ei thrigolion i gysgodi yn eu cartrefi.

Tân gwyllt sy’n gyfrifol am y mwg, a chafodd miloedd ohonyn nhw eu tanio ddoe (Dachwedd 7) yn Delhi yn rhan o ddathliad gŵyl Hindŵaidd Diwali.   

Yn ôl llysgenhaty’r Unol Daleithiau, mae lefel llygredd aer y ddinas wedi cyrraedd 681 – 20 gwaith yn uwch na’r lefel diogel.

Roedd Goruchaf Lys India wedi gorchymyn bod y tanau gwyllt yn cael eu tanio am gyfnod o ddwy awr yn unig, ond cafodd y rheol ei hanwybyddu.

Mae awdurdodau hefyd wedi beio tanau ar gyrion y ddinas am y llygredd aer.

‘Gŵyl y goleuadau’ yw Diwali, ac mae Hindŵaid yn ei ddathlu trwy osod goleuadau ar adeiladau a thanio tân gwyllt.