Mae pobol yn paratoi i fwrw eu pleidlais yn etholiadau canol tymor yr Unol Daleithiau yfory (dydd Mawrth, Tachwedd 6).

Fe fydd pleidleiswyr yn dewis rhwng y Gweriniaethwyr, sef plaid yr Arlywydd Donald Trump, a’r Democratiaid sydd wedi bod yn ymgyrchu i geisio dod a monopoli’r Gweriniaethwyr yn Washington i ben.

Mae ’na ddyfalu y gallai’r Democratiaid gipio rheolaeth o Dŷ’r Cynrychiolwyr.

Byddai hyn yn golygu y gallen nhw atal agenda deddfwriaethol yr Arlywydd Donald Trump am y ddwy flynedd nesaf.

Demograffeg

Dangosodd arolwg cenedlaethol gan NBC News a The Wall Street Journal y newidiadau demograffeg ymysg pleidleiswyr.

Mae’r Democratiaid yn arwain gydag Americanwyr-Affricanaidd (84% i 8%), Latino (57% i 29%), pleidleiswyr 18 i 34 oed (57% i 34%), menywod (55% i 37%) ac annibynnol (35% i 23%).

Ar yr ochor arall, mae’r Gweriniaethwyr yn arwain gyda phleidleiswyr rhwng 50 a 64 oed (52% i 43%), dynion (50% i 43%), a phobol wyn (50% i 44%).