Fe fydd senedd Sri Lanca yn ymgynnull unwaith eto ar Dachwedd 14 i roi sêl bendith i benodiad prif weinidog newydd y wlad.

Mae disgwyl i Mahinda Rajapaksa gael ei dderbyn yn ffurfiol i’r swydd wedi’r bleidlais, ar ôl i Ranil Wickremesinghe gael ei ddiswyddo gan yr Arlywydd Maithripala Sirisena tros gynllwyn honedig fis diwethaf.

Daeth y senedd i ben bryd hynny er mwyn rhoi digon o amser i ddeilydd newydd y swydd sicrhau digon o gefnogaeth i gael cadarnhau ei benodiad drwy osgoi pleidlais o ddiffyg hyder.

Er y bydd y senedd yn dod ynghyd ymhen deng niwrnod, mae rhai yn galw am ymgynnull ar unwaith er mwyn rhoi terfyn ar yr ansicrwydd. Yn eu plith mae Ranil Wickremesinghe, sy’n honni bod ganddo fe a’i gydweithwyr fwyafrif yn y senedd o hyd.