Mae gwennol ofod chwe thunnell wedi syrthio o’r gofod i’r Ddaear, meddai Nasa.

Dywedodd yr asiantaeth fod y wennol ofod wedi chwalu yn gynharach y bore ma. Does dim manylion eto ynglŷn â lle y glaniodd.

Y gred yw bod y rhan fwyaf ohono wedi llosgi’n ulw wrth ddychwelyd i’r Ddaear. Dyma’r wennol ofod fwyaf i ddisgyn i’r Ddaear ers 32 mlynedd.

Cafodd gwennol ofod UARS ei lansio i’r gofod ar gefn llong ofod Discovery yn 1991. Cafodd ei ddatgomisiynu gan Nasa yn 2005.

Y gred yw ei fod wedi disgyn drwy atmosffer y Ddaear rywle dros y Môr Tawel, rhwng 2.23am a 6.09am amser Cymru. Dywedodd Nasa y gallai darnau gwahanol fod wedi glanio mewn gwahanol rannau o’r byd.

Dywedodd Nasa ei fod yn annhebygol iawn y byddai unrhyw un yn cael ei daro gan y wennol ofod wrth iddo syrthio i’r Ddaear.