Dylai cyn-Ddirprwy Arlywydd Catalwnia, Oriol Junqueras, dderbyn 25 mlynedd o garchar am wrthryfel a chamddefnyddio arian cyhoeddus, yn ôl erlynwyr yn Sbaen.

Dyma’r ddedfryd fwyaf y mae’r erlynwyr cyhoeddus yn y wlad yn ei cheisio ar gyfer rhai o arweinwyr yr ymgais i sicrhau annibyniaeth i Gatalwnia.

Mae 22 wedi’u cyhuddo mewn cysylltiad â’r refferendwm  a gafodd ei chynnal fis Hydref y llynedd.

Mae Oriol Junqueras, ynghyd ag 11 o wleidyddion, ymgyrchwyr a gweision sifil eraill, ymhlith y rheiny sy’n wynebu cyhuddiadau difrifol am y digwyddiad.

Fydd y rheiny sydd wedi ffoi o’r wlad, gan gynnwys cyn-Arlywydd Catalwnia, Carles Puigdemont, ddim yn cael eu cynnwys yn yr achos.

Fe all Oriol Junqueras, a arhosodd yn Sbaen i wynebu’r awdurdodau, hefyd gael ei wahardd am 25 mlynedd rhag dal swydd gyhoeddus.

O dan gyfraith Sbaen, mae unrhyw un sy’n gwrthryfela yn erbyn llywodraeth neu gyfansoddiad y wlad drwy drais yn wynebu rhwng 15 a 30 mlynedd o garchar.

Mae’r rheiny sydd ddim yn defnyddio trais wedyn yn gallu derbyn cyfanswm o 15 mlynedd o garchar.