Mae disgwyl i beirianwyr a channoedd o aelodau staff Google gerdded allan heddiw (dydd Iau, Tachwedd 1) mewn protest am y ffordd y mae’r cwmni’n cadw cefnau rheolwyr sydd wedi cael eu cyhuddo o gamymddwyn rhywiol.

Maen nhw’n dweud bod angen gwneud safiad yn erbyn trefn sy’n trin merched yn israddol yn y byd busnes, adloniant a gwleidyddiaeth.

Yr wythnos ddiwethaf roedd papur newydd The New York Times yn cario honiadau o gamymddwyn rhywiol yn erbyn dyfeisiwr meddalwedd android cwmni Google, Andy Rubin. Roedd yr adroddiad yn honni ei fod wedi derbyn $90m (£70m) mewn pecyn wrth adael y cwmni yn 2014 – er bod Google yn credu bod sail i’r honiadau yn ei erbyn/

Mae Andy Rubin yn gwadu’r cyhuddiadau.