Mae actor a chyfarwyddwr enwog o Awstralia wedi ymddangos gerbron llys yn Sydney wedi’i gyhuddo o dreisio dynes 42 mlynedd yn ôl.

Mae John Jarratt, 66, yn fwyaf adnabyddus am chwarae rhan Mick Taylor yn y gyfres o ffilmiau arswyd, Wolf Creek. Mae wedi bod yn actio a chyfarwyddo ar y sgrin fawr a’r sgrin fach ers canol y 1970au.

Yn ôl y ddynes 66 oed sy’n ei gyhuddo o’i threisio, fe fu’r digwyddiad mewn fflat yn ardal Randwick yn Sydney ym mis Medi 1976.

Wrth ymddangos gerbron Llys Lleol Canolfan Downing, mae’r actor wedi gwadu’r cyhuddiad yn ei erbyn.