Mae Angela Merkel wedi cadarnhau y bydd hi’n camu o’r neilltu fel Canghellor yr Almaen pan fydd ei thymor yn dod i ben yn 2021.
Daw’r cyhoeddiad yn dilyn adroddiadau ei bod hi wedi dweud wrth ei phlaid ei hun, y Democratiaid Cristnogol (CDU), ei bod hi’n fodlon camu o’r neilltu fel arweinydd ei phlaid.
Yn ddiweddar, mae’r llywodraeth ffederal ‘glymbleidiol’ rhwng y CDU a’r Democratiaid Cymdeithasol (SPD) wedi colli tir mewn etholiadau taleithiol.
Mewn datganiad yn cyhoeddi ei bwriad i ymddeol, mae Angela Merkel yn dweud ei bod yn bryd “cychwyn ar bennod newydd”, ac mae’n gobeithio y bydd ei chyhoeddiad heddiw yn rhoi digon o amser i ddewis olynydd iddi.
Mae Angela Merkel wedi bod yn arweinydd ar y CDU ers 2000, ac yn Ganghellor yr Almaen ers 2005.
Roedd rhagflaenydd Angela Merkel, Gerhard Schröder, wedi camu o’r neilltu fel arweinydd ei blaid – y Democratiaid Cymdeithasol – yn 2004, gan barhau’n Ganghellor tan 2005.