Yn ôl adroddiadau mae Angela Merkel wedi dweud wrth ei phlaid ei bod yn fodlon camu o’r neilltu fel arweinydd ond ei bod eisiau aros yn Ganghellor yr Almaen.

Dywedodd asiantaeth newyddion dpa bod ffynonellau o fewn y blaid wedi dweud na fyddai Angela Merkel yn sefyll eto fel arweinydd  plaid y Democratiaid Cristnogol (CDU).

Daw hyn yn sgil cyfarfod i drafod yr arweinyddiaeth ar ôl i’r glymblaid sy’n llywodraethu yn yr Almaen – y CDU a’r Democratiaid Cymdeithasol – golli tir.

Roedd rhagflaenydd Angela Merkel, Gerhard Schroeder, wedi camu o’r neilltu fel arweinydd yn 2004 ond wedi aros yn Ganghellor.