Mae grwpiau hawliau dynol wedi mynegi pryderon ar ôl i arweinydd asgell-dde gael ei ethol yn Arlywydd newydd Brasil.

Daeth i’r amlwg yn ystod oriau mân y bore heddiw (Hydref 29) fod Jair Bolsonaro yn fuddugol yn y ras am arlywyddiaeth y wlad, ar ôl iddo dderbyn 55% o’r bleidlais.

Yn dilyn ymgyrch ddramatig a threisgar ar adegau yn y misoedd yn arwain at yr etholiad, mae’r Arlywydd newydd wedi addo amddiffyn cyfansoddiad y wlad ac uno pobol Brasil.

“Mae’r wlad hon yn eiddo i bob un ohonom ni, pobl Brasil o ran geni neu galon – Brasil o amrywiaeth barn, lliw a gogwydd,” meddai’r arlywydd newydd yn dilyn ei fuddugoliaeth.

Yn y cyfamser, dyw’r gŵr a ddaeth yn ail, sef y gwleidydd asgell-chwith, Fernando Haddad, ddim wedi llongyfarch Jair Bolsonara yn ystod ei araith i’w gefnogwyr.

Yn hytrach, dywedodd y bydd yn parhau â’r frwydr, gan barchu sefydliadau’r wlad ar yr un pryd.

“Mae gennym gyfrifoldeb i ffurfio gwrthwynebiad, gan roi’r lles cenedlaethol, lles holl bobol Brasil, uwchlaw pob dim arall,” meddai Fernando Haddad.

Ymhlith y mudiadau sydd wedi mynegi pryderon am yr Arlywydd newydd mae’r Human Rights Watch, sy’n galw ar farnwyr Brasil i sicrhau nad yw Jair Bolsonaro yn tanseilio hawliau sifil a democratiaeth y wlad.

Mae llefarydd ar ran Cronfa Amddiffyn yr Amgylchedd wedyn yn dweud y gall yr Arlywydd newydd a’r hyn y mae wedi’i ddweud ynghylch yr amgylchedd fod yn “niweidiol i’r blaned”.

Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, wedi llongyfarch yr Arlywydd newydd, gan ddweud bod y ddwy wlad wedi ymrwymo i gydweithio â’i gilydd.