Mae Arlywydd Sri Lanca, Maithripala Sirisena yn honni ei fod e wedi diswyddo’r Prif Weinidog Ranil Wickremesinghe am fod aelod o’i Gabinet yn rhan o gynllwyn i’w ladd.

Wrth annerch y genedl ar y teledu, dywedodd yr Arlywydd fod ymchwilwyr wedi cael enw gweinidog oedd yn cynllwynio i’w ladd a e chyn-Ysgrifennydd Amddiffyn y wlad.

Yr unig ddewis, meddai, oedd diswyddo Ranil Wickremesinghe a phenodi Mahinda Rajapaska yn Brif Weinidog yn ei le er mwyn ffurfio llywodraeth newydd.

Dydy enw’r gweinidog sydd wedi’i amau o gynllwynio ddim wedi cael ei gyhoeddi’n swyddogol, ond mae Namal Kumara, mewn gwybodaeth sydd wedi’i rhoi i’r heddlu wedi enwi cyn-arweinydd y fyddin, Sarath Fonseka.

Mae sïon ar led ers wythnosau fod cynllwyn yn erbyn yr arlywydd, ond dyma’r tro cyntaf iddo ymateb iddyn nhw.

Mae Ranil Wickremesinghe yn honni bod y penderfyniad i’w ddiswyddo’n “anghyfansoddiadol”.