Mae disgwyl i dwrnai cyffredinol Saudi Arabia lanio yn Istanbul i gynnal trafodaethau ag ymchwilwyr i farwolaeth Jamal Khashoggi.
Cafodd newyddiadurwr y Washington Post ei ladd yn llysgenhadaeth y wlad yn Nhwrci ddechrau’r mis.
Ychydig iawn o gyhoeddusrwydd sydd wedi’i roi i ymweliad Saud al-Mojeb, ddyddiau’n unig ar ôl i gyfarwyddwr y CIA, Gina Haspel deithio i Dwrci cyn briffio Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump.
Mae Twrci yn awyddus i estraddodi 18 o bobol o Saudi Arabia sydd wedi’u hamau o fod â chysylltiad â marwolaeth Jamal Khashoggi ar Hydref 2.
Mae gan rai ohonyn nhw gysylltiadau â thywysog coronog Saudi Arabia, Mohammed bin Salman, rhywun a gafodd ei feirniadu gan Jamal Khashoggi.
Mae Saudi Arabia wedi pwysleisio na fydd unrhyw un yn cael ei estraddodi nac yn wynebu achos tan ar ôl i’r ymchwiliad ddod i ben.
Mae Saudi Arabia wedi rhybuddio rhag dyfalu ynghylch marwolaeth y newyddiadurwr cyn i’r manylion llawn gael eu cyhoeddi. Yn ôl adroddiadau, fe gafodd ei ladd gan 15 o ddynion arfog.
Mae awdurdodau Twrci’n cadw llygad barcud ar unrhyw ddatblygiadau, meddai’r Arlywydd Recep Tayyip Erdogan.