Mae o leiaf 40 o filwyr o Syria wedi cael eu lladd, yn ôl adroddiadau.
Daw’r adroddiadau gan asiantaeth sy’n gysylltiedig â Daesh – neu’r Wladwriaeth Islamaidd – sy’n dweud eu bod nhw wedi cael eu lladd gan ddynion arfog.
Mae asiantaeth Aamaq wedi postio fideo ar y we sy’n dangos chwe dyn arfog sydd wedi’u cipio’n fyw.
Fe wnaeth y brwydro rhwng lluoedd y wlad bara tan ddydd Sadwrn.