Mae heddlu sy’n ymchwilio i ‘becynnau amheus’ gafodd eu hanfon i ffigyrau amlwg ledled yr Unol Daleithiau, wedi arestio dyn.

Bellach mae’r awdurdodau yn ymchwilio i 12 pecyn gafodd eu hanfon i bobol sydd wedi beirniadu Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, yn y gorffennol.

Y Seneddwr, Cory Booker, a’r Cyfarwyddwr corff cudd-wybodaeth, James Clapper, yw’r diweddaraf i gael eu targedu.

Ond mae ffigyrau llawer amlycach gan gynnwys y cyn-Arlywydd, Barack Obama, ac ymgeisydd arlywyddol 2016, Hillary Clinton, wedi eu targedu hefyd.

Mae’n debyg bod pob un o’r pecynnau yn cynnwys dyfeisiau chwe modfedd o hyd, yn llawn darnau miniog a phowdwr, a phryder yr heddlu yw mai bomiau yw’r rhain.

“Wnawn ni ddod o hyd i’r person neu’r bobol sy’n gyfrifol,” meddai’r Twrnai Cyffredinol, Jeff Sessions. “Wnawn ni ddod â nhw o flaen eu gwell.”

Mae’r ymchwiliad ar droed ledled yr Unol Daleithiau, ac mae disgwyl cyhoeddi rhagor o wybodaeth yn ddiweddarach.