Mae arlywydd Tsieina, Zi Jinping, wedi bod yn arwain dathliadau yn ninas Zhuhai, wrth iddo agor y bont for hiraf erioed.

Mae’r bont yn cysylltu ardaloedd Hong Kong a Macau, a’r gobaith yw clymu’r ddau le at ei gilydd a rhoi hwb i economi y ddau le.

O ganlyniad i oedi mawr o gostau fe gymerodd ddegawd a £15 m miliwn i adeiladu’r bont 34 milltir o hyd.

Mae’n cynnwys twnnel tanfor sy’n caniatáu llongau i basio trwy afon Pearl, sef craidd sector gweithgynhyrchu Tsieina.